£28K/yr to £31K/yr
Cardiff, Wales
Contract, Variable

Improvement and Development Co-ordinator - Welsh Essential

Posted by Social Care Wales.

Cydlynydd Gwella a Datblygu - Cymraeg yn Hanfodol
Caerdydd neu Gyffordd Llandudno (gyda gwaith hybrid)

Y Sefydliad

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

I wneud hyn, rydym yn arwain y gwaith o ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Rydym nawr yn chwilio am Gydlynydd Gwella a Datblygu i ymuno â ni yn llawn amser am gontract tymor penodol o 12 mis.

Y Manteision

- Cyflog o £28,239 - £30,534 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol

Y Rôl

Fel Cydlynydd Gwella a Datblygu, byddwch yn darparu cydlyniad prosiect hollbwysig ar draws amrywiol fentrau gwella a datblygu, yn enwedig y prosiect Cyflwyniad i Ofal Plant o fewn tîm y Blynyddoedd Cynnar.

Gan ddarparu cymorth gweinyddol effeithlon ac effeithiol i waith y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac ar draws y gyfarwyddiaeth Gwella a Datblygu, byddwch yn paratoi agendâu, yn cymryd cofnodion, yn coladu ac yn dadansoddi data ac yn cynnal ein systemau gweinyddol, gweithdrefnau a chronfeydd data.

Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau, yn helpu i adolygu a datblygu cynnwys Gwella a Datblygu ar Sharepoint a'n gwefan ac yn darparu gweinyddiaeth cwrs ar gyfer Cyflwyniad i Ofal Plant.

Amdanoch Chi

Er mwyn cael eich ystyried yn Gydlynydd Gwella a Datblygu, bydd angen:

- Rhuglder yn y Gymraeg
- Profiad o weinyddu busnes
- Sgiliau rheoli amser a blaenoriaeth ardderchog
- Gwybodaeth am y sector cyhoeddus
- Sgiliau TG da, gan gynnwys Zoom a Microsoft Teams

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon yw 30 Awst 2024.

Gallai sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Gydlynydd Prosiect, Swyddog Gweinyddol, Swyddog Gweinyddu Prosiect, Uwch Weinyddwr, EA, PA, Cynorthwyydd Gweithredol, Cynorthwyydd Personol, neu Swyddog Cefnogi Prosiect.

Felly, os ydych am ddatblygu eich gyrfa fel Cydlynydd Gwella a Datblygu, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Improvement and Development Co-ordinator - Welsh Essential
Cardiff or Llandudno Junction (with hybrid working)

The Organisation

At Social Care Wales, we provide leadership and expertise in social care and early years in Wales.

Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers.

To do this, we lead in developing and regulating the social care workforce, service improvement, data and research to improve care.

We are now looking for an Improvement and Development Co-ordinator to join us on a full-time basis for a fixed-term contract of 12 months.

The Benefits

- Salary of £28,239 - £30,534 per annum
- 28 days' holiday plus bank holidays (increasing with length of service)
- Extra days off between Christmas and New Year
- Local government pension scheme
- Flexi work policy
- Hybrid working
- Family leave policy

The Role

As an Improvement and Development Co-ordinator, you will provide crucial project co-ordination across various improvement and development initiatives, especially the Introduction to Childcare project within the Early Years team.

Providing efficient and effective administrative support to Early Years and Childcare work and across the Improvement & Development directorate, you'll prepare agendas, take minutes, collate and analyse data and maintain our administrative systems, procedures and databases.

Additionally, you'll assist with event organisation, help to review and develop Improvement & Development content on Sharepoint and our website and provide course administration for Introduction to Childcare.

About You

To be considered as an Improvement and Development Co-ordinator, you will need:

- Fluency in Welsh
- Business administration experience
- Excellent time and priority management skills
- Knowledge of the public sector
- Good IT skills, including Zoom and Microsoft Teams

The closing date for this vacancy is the 30th August 2024.

Other organisations might call this position Project Co-ordinator, Admin Officer, Project Administration Officer, Senior Administrator, EA, PA, Executive Assistant, Personal Assistant, or Project Support Officer.

So, if you want to develop your career as an Improvement and Development Co-ordinator, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.

We use cookies to measure usage and analytics according to our privacy policy.