£20K/yr
Cardiff, Wales
Contract

Audit & Risk Assurance Committee - Independent Members

Posted by Arts Council of Wales.

Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Perygl - Aelodau Annibynnol

Tymor tair blynedd i ddechrau
Di-dâl yw'r swydd ond talwn gostau teithio a chynhaliaeth resymol
Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn digwydd ar-lein fel arfer

The English version of this text can be found below.

Rydym yn chwilio am 2 aelod annibynnol newydd i ymuno â'n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Perygl. Rhaid i un o leiaf gael profiad ariannol proffesiynol.

Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am gefnogi'r Cyngor a'r Swyddog Cyfrifyddu (y Prif Weithredwr) drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw ein sicrwydd llywodraethu, ein rheolaeth o berygl, amgylchedd ein rheolaeth a chywirdeb ein datganiadau ariannol a'n hadroddiad blynyddol. Bydd hyn yn hyrwyddo'r safonau uchaf o briodoldeb ac atebolrwydd priodol wrth ddefnyddio arian cyhoeddus. Bydd hefyd yn gyfrifol am fonitro gwaith yr archwilwyr mewnol ac allanol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â'r cefndir a/neu'r sgiliau canlynol:

- dealltwriaeth o'r amgylchedd y mae'r Cyngor yn gweithio ynddo, gan gynnwys llywodraethu ac atebolrwydd yng nghyd-destun y sector cyhoeddus a/neu elusennol
- profiad diweddar a pherthnasol o waith ariannol, cyfreithiol a/neu archwilio uwch
- profiad o sefydliadau sy'n dosbarthu arian, gan gynnwys dosbarthwyr grantiau, a dealltwriaeth dda o'r heriau sy'n wynebu sefydliadau sector cyhoeddus neu drydydd sector
- profiad o reoli uwch, yn ddelfrydol wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn sector sydd o fudd i gyhoedd Cymru
- profiad personol o reoli newid

Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i ddod i gyfarfodydd o'r pwyllgor a chymryd rhan ynddynt a chefnogi nodau, gwerthoedd ac amcanion y Cyngor.

Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y gwaith.

Dyddiad cau: 12:00 Hanner dydd, ddydd Mercher 25 Medi 2024

Bydd cyfweliadau i ymgeiswyr ar y rhestr fer ar 24 Hydref 2024 yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Cyngor yn gyflogwr cynhwysol. Dymunwn adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a grwpiau diwylliannol ac ethnig amrywiol. Croesawn geisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd gwahaniaeth yn y ffordd rydym yn trin ceisiadau Cymraeg a Saesneg. Ein nod yw cymryd camau i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu dewis am swyddi ar sail eu haddasrwydd yn unig. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, fel nodyn llais neu fideo Arwyddeg, cysylltwch â ni yn gyntaf.

Cynllun anabledd hyderus:

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y rôl a nodir yn adran 'Am bwy rydym yn chwilio?' o fewn y ddogfen gwybodaeth recriwtio (gwaelod tudalen 1) yn y pecyn recriwtio.

Audit & Risk Assurance Committee - Independent Members

Three-year term initially
The position is unpaid, although we pay reasonable travel and subsistence expenses
Committee meetings are usually held online

We are looking for 2 new independent members to join our Audit & Risk Assurance Committee. At least one must have professional finance experience.

The Committee is responsible for supporting the Council and Accounting Officer (our Chief Executive) by reviewing the comprehensiveness and reliability of assurances on governance, risk management, the control environment and the integrity of financial statements and the annual report, helping to promote the highest standards of propriety in the use of public funds and encourage proper accountability for the use of those funds. It also has responsibility for monitoring the work of both internal and external auditors.

We welcome applications from individuals with the following background and/or skills:

- an understanding of the environment in which the Arts Council of Wales operates, including governance and accountability in the public sector and/or charity context
- recent and relevant experience in a senior financial, legal and/or audit role
- experience of organisations that distribute funding, including grant distributors, and a sound understanding of the challenges faced by public or third sector organisations
- senior managerial experience, preferably in the delivery of professional services in a sector which benefits the public of Wales
- first-hand experience of change management

The successful applicants must be willing to attend and participate in committee meetings, and to support the Arts Council's aims, values and objectives.

We work in both English and Welsh and fluency in Welsh (both written and spoken) is desirable but not essential for these roles.

Closing date: 12:00 midday on Wednesday 25th September 2024

Interviews for shortlisted candidates will be held 24th October 2024 at our office in Cardiff Bay.

Diversity and Inclusion

The Arts Council of Wales in an inclusive employer, and we wish to reflect the diverse communities we serve. Applications from culturally and ethnically diverse people and underrepresented groups are encouraged and warmly welcomed. Applications are welcomed in Welsh or English and we will correspond with you in your language of choice. Applications submitted in Welsh will be treated no less favourably than applications submitted in English. We aim to take positive steps to ensure that all candidates are selected for vacancies solely on their suitability for the role. If you would like to submit your application in an alternative format, such as voice note or British Sign Language video, please contact us first.

Disability confident scheme:

The Arts Council of Wales is a Disability Confident employer, committed to interviewing all disabled applicants who meet the essential requirements of the role set out within the 'Who we are looking for' section of the recruitment information document (Page.1) attached to the recruitment pack.

We use cookies to measure usage and analytics according to our privacy policy.