We are looking for a strategic leader who can demonstrate a strong record of visible and transformational leadership within a dynamic environment. The ability to produce positive results is key along with a broad range of experience. Prospective applicants will need to demonstrate a thorough understanding of both the functions of the Fire and Rescue Service and the issues facing the Service both within Wales and the UK.
This is an exciting time to join the Service as we continue our programme of cultural change. The successful candidate will play a key role in implementing the recommendations in the recently published HMICFRS report, the Fenella Morris KC review and the reports by the Chief Fire and Rescue Adviser.
Strong planning, organisational and people skills will be paramount, in addition to excellent communication and the ability to build strong relationships and networking skills as this will be imperative to running an effective directorate, advising the Chief Fire Officer and Commissioners at a strategic level and in supporting collaboration with Welsh Government, other fire and rescue services and partner organisations.
The successful candidate will enjoy a career within a progressive organisation, leading complex departments who make a positive difference to the communities of South Wales daily.
Relocation support will be available
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Rydym yn chwilio am arweinydd strategol gyda hanes cryf profedig o arweinyddiaeth weladwy a thrawsnewidiol o fewn amgylchedd deinamig. Mae gallu cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol yn allweddol ynghyd â phrofiad eang ac amrywiol. Bydd angen i ddarpar ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth drylwyr o swyddogaethau'r Gwasanaeth Tân ac Achub a'r materion sy'n wynebu'r Gwasanaeth yng Nghymru a'r DU.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r Gwasanaeth wrth i ni barhau â'n rhaglen o newid diwylliannol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth weithredu'r argymhellion adroddiad HMICFRS a gyhoeddwyd yn ddiweddar, adolygiad Fenella Morris CB ac adroddiadau'r Prif Ymgynghorydd Tân ac Achub.
Bydd sgiliau cryf ar gyfer cynllunio, trefnu ac ymgysylltu â phobl yn hollbwysig, yn ogystal â sgoliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i feithrin cydberthnasau cryf a sgiliau rhwydweithio. Bydd hyn yn hanfodol i gynnal cyfarwyddiaeth effeithiol, cynghori'r Prif Swyddog Tân a'r Comisiynwyr ar lefel strategol a chefnogi cydweithio â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau tân ac achub eraill a sefydliadau partner.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gyrfa o fewn sefydliad blaengar, gan arwain adrannau cymhleth sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau De Cymru bob dydd.
Bydd cymorth adleoli ar gael