£34K/yr to £42K/yr
Newport, Wales
Permanent, Variable

Qualifications Officer - Swyddog Cymwysterau

Posted by Qualifications Wales.

Swyddog Cymwysterau
Casnewydd, Cymru (gyda gwaith hybrid)

Amdanom ni

Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Swyddog Cymwysterau i ymuno â ni yn barhaol, llawn amser. Rydym yn falch o glywed gan y rhai sy'n chwilio am batrymau gwaith amgen, gan gynnwys rhannu swydd a rhan-amser, a byddwn yn edrych i drafod hyn yn y cyfweliad.

Y Manteision

- Cyflog o £34,083 - £41,675 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (ynghyd â gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sydd â phrofiad o reoli prosiectau gamu i rôl hanfodol gyda'n sefydliad annibynnol.

Y Rôl

Fel Swyddog Cymwysterau, byddwch yn sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr yn effeithiol.

Byddwch yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau trwy gynllunio a threfnu gwaith, helpu i ffurfio barn a llywio penderfyniadau, cefnogi darparu adborth i gyrff dyfarnu. Gan ymgysylltu â chynghorwyr a rhanddeiliaid arbenigol, byddwch yn cynhyrchu adroddiadau, yn cymryd nodiadau ac yn cadw cofnodion.

Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys:

- Adolygu cyrff dyfarnu, cymwysterau, prosesau, systemau a dogfennau
- Cyfrannu at reoli contractau gydag arbenigwyr allanol a darparwyr eraill
- Cefnogi prosiectau trawsbynciol
- Cyfrannu at raglenni adolygu, monitro a chydymffurfio

Amdanat ti

Er mwyn cael eich ystyried yn Swyddog Cymwysterau, bydd angen:

- Profiad o weithio o fewn amgylchedd rheoli prosiect neu raglen strwythuredig ac effeithiol
- Profiad o adolygu gwybodaeth yn erbyn meini prawf i lunio barn
- Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn cyd-destun ffurfiol
- Dealltwriaeth o dechnegau rheoli prosiect
- Y gallu i ddrafftio adroddiadau clir a chryno
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 9 Mehefin 2024.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Prosiect Cynorthwyol, Swyddog Prosiect, Gweinyddwr Cymwysterau, Gweinyddwr Prosiect, neu Gynorthwyydd Rhaglen.

Felly, os ydych chi'n barod i gymryd eich cam nesaf fel Swyddog Cymwysterau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Qualifications Officer
Newport, Wales (with hybrid working)

About Us

We are Qualifications Wales, the independent organisation responsible for regulating general and vocational qualifications in Wales.

We are currently looking for a Qualifications Officer to join us on a permanent, full-time basis. We are happy to hear from those seeking alternative working patterns, including part-time and job shares, and will be looking to discuss this at interview.

The Benefits

- Salary of £34,083 - £41,675 per annum
- 30 days' annual leave pro rata (plus public holidays and office closure at Christmas)
- Flexible working arrangements
- Civil Service Pension Scheme

This is an excellent opportunity for an individual with experience of project management to step into a vital role with our independent organisation.

The Role

As a Qualifications Officer, you will ensure that qualifications and the qualification system in Wales effectively meets the needs of learners.

You will support a range of projects through planning and organising work, help to form judgements and inform decision making, supporting the provision of feedback to awarding bodies. Engaging with expert advisors and stakeholders, you'll produce reports, take notes and keep records.

Your role will also involve:

- Reviewing awarding bodies, qualifications, processes, systems and documents
- Contributing to the management of contracts with external experts and other providers
- Supporting cross-cutting projects
- Contributing to programmes of review, monitoring and compliance

About You

To be considered as a Qualifications Officer, you will need:

- Experience of working within a structured and effective project or programme management environment
- Experience of reviewing information against criteria to form a judgement
- Experience of engaging with stakeholders in a formal context
- An understanding of project management techniques
- The ability to draft clear and concise reports
- Excellent communication skills

The closing date for this role is the 9th June 2024.

Other organisations may call this role Assistant Project Manager, Project Officer, Qualifications Administrator, Project Administrator, or Programme Assistant.

So, if you're ready to take your next step as a Qualifications Officer, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.